Bar siampw solet sy'n hydradu'n naturiol yw hwn. Mae'r cyfuniad o olewau hanfodol grawnffrwyth ac oren yn rhoi arogl sitrws hapus i'r gwallt yn ogystal a meddalu'r gwallt. Mae'r rysait syml hon yn llawn olewau maethlon sydd yn rhoi sglein a thrwch i'ch gwallt. Bydd y clai gwyrdd yn helpu i gael gwared o amhureddau, gan adael gwallt sy'n sboncio!
Gwneir y siampw hwn drwy'r broses oer, sy'n cynhyrchu glyserin fel sgil-gynnyrch. Mae pob sebon a siampw yn gynnyrch fegan ac yn rhydd rhag brofion anifeiliaid, olew palmwydd, SLS, sylffadau, parabens, gwlychwyr ac olew persawr synthetig.
Mae gennym sicrwydd adroddiad diogelwch cynnyrch cosmetig sy'n ofynnol o dan reolau'r UE.
Yn pwyso isafswm o 70g.
Mae'r siampw wedi'i lapio mewn papur brown a'i becynnu mewn bag cotwm organig gyda thag papur brown. Mae modd compostio'r holl ddeunyddiau, felly dim gwastraff sy'n cyd-fynd gyda'n safonau ecogyfeillgar.
Bar siampw Grawnffrwyth ac Oren
Sodiwm Cocoad (olew cnau coco), Sodiwm Ricinolead (olew castor), Sodiwm Olivad (olew olewydd), Sodiwm Arganad (olew argan), Olew Croen Citrus Paradisi (grawnffrwyth), Olew Croen Citrus Aurantium Dulcis (oren felys) wedi'i fynegi, Montmorillonit, Illit a Chaolin (clai pinc), Dŵr, Glyserin.

