top of page

Helo

Helo, fy enw i yw Gwyneth, a dwi'n fydwraig wedi ymddeol. O un llafur cariad i'r llall, mae fy musnes yn darparu sebonau cynaliadwy o ansawdd unigryw sy'n seiliedig ar blanhigion a phapur a chynhyrchion blodau wedi'u gwneud â llaw.

  • Facebook
  • Instagram
This is an image of me the owner of the business standing in the garden under a weaping copper beach tree.

Ein Stori

Dewch i'n Nabod

Datblygwyd y syniad busnes oherwydd amgylchiadau personol gan fy mod yn gofalu am mam ar ddiwedd ei hoes yn fy nghartref. Cefais git gwneud sebon fel anhreg a gwelais fy mod yn gallu gwneud sebonau hardd ochr yn ochr gyda chariad a gofal.

 

Roedd creu sebon yn rhoi pleser, seibiant a chanolbwynt i mi a llwyddais i sicrhau ansawdd, manylder, ac amrywiaeth hardd dros amser. Daeth y syniad o wneud papur oherwydd dant melys fy mam at fananas. Sylweddolais y gallwn ailgylchu’r mynydd o ffibrau croen banana yr oeddem yn eu cynhyrchu a'i gwneud yn gynnyrch defnyddiol. Papur wedi’i wneud â llaw o ffibr croen banana oedd yr ateb!

​

Rwyf wedi bod ag angerdd at fyd natur ers fy mhlentyndod ac yn ymhyfrydu yn y lliwiau, y ffurf a'r cyferbyniad hardd sydd o'n cwmpas ym mhobman, mewn coed, blodau gwyllt, gweiriau a hadau. Sylweddolais, trwy sychu botaneg, fod modd cadw ac ailgylchu’r lliwiau a’r ffurfiau hyn ac felly dechreuais sychu blodau, perlysiau a hadau i ddod â lliw, gwead a moethusrwydd i’m holl gynnyrch. Yn y diwedd, daeth syniad o fusnes bach ecogyfeillgar a chynaliadwy yn fyw, a rhoddodd gysur a ffocws gwych i mi.

 

Mae gan yr holl sebonau sicrwydd o safon ddiogel trwy ardystiad adroddiad diogelwch colur.

 

Mae’r busnes wedi’i ddatblygu yng nghanol cymuned cymreig ac felly mae’n falch o fod yn ddwyieithog.

​

​

Byddai fy Mam yn falch! 

Gwerthwyr gorau

© 2023 Cynllun y wefan ganNia Sian Dylunio

bottom of page