top of page

Bar siampw solet sy'n hydradu'n naturiol yw hwn. Mae persawr adfywiol olewau hanfodol camri a rhosmari yn cyd-fynd yn hyfryd. Mae trochion lleddfol y siampw yn helpu i feddalu'r gwallt. Mae'r rysait syml hon yn llawn olewau maethlon sydd yn rhoi sglein a thrwch i'ch gwallt. Bydd y clai gwyrdd yn helpu i gael gwared o amhureddau, gan adael gwallt sy'n sboncio!

Gwneir y siampw hwn drwy'r broses oer, sy'n cynhyrchu glyserin fel sgil-gynnyrch. Mae pob sebon a siampw yn gynnyrch fegan ac yn rhydd rhag brofion anifeiliaid, olew palmwydd, SLS, sylffadau, parabens, gwlychwyr ac olew persawr synthetig. 

Mae gennym sicrwydd adroddiad diogelwch cynnyrch cosmetig sy'n ofynnol o dan reolau'r UE.

Yn pwyso isafswm o 70g.

Mae'r siampw wedi'i lapio mewn papur brown a'i becynnu mewn bag cotwm organig gyda thag papur brown. Mae modd compostio'r holl ddeunyddiau, felly dim gwastraff sy'n cyd-fynd gyda'n safonau ecogyfeillgar.

Siampw Rhosmari a Chamri

£6.00Price
Quantity
  • Sodium Cocoate ( coconut oil ), Sodium Ricinoleate ( Castor oil ), Sodium Olivate ( olive oil ),  Sodium Arganate ( Argan oil ), Rosmarinus Officinalis ( Rosemary ) Leaf Oil , Ormensis Multicaulis ( Chamomile Wild Maroc ) Flower Oil , Montmorillonite, Illite and Kaolin ( Green Clay ), Aqua, Glycerin.

     

© 2023 Cynllun y wefan ganNia Sian Dylunio

bottom of page