Uchafbwyntiau –
Gwnaed â llaw. Wedi'i wneud a'i anfon o fusnes bach yng Nghymru. Dim gwastraff, pecynnu di-blastig, ailgylchadwy neu gompostiadwy.
Deunyddiau - Olew Olewydd, Olew Cnau Coco, Menyn Shea, pigmentau naturiol neu glai ac olewau hanfodol.
Yn rhydd rhag - creulondeb anifeiliaid, olew palmwydd, SLS, Parabens. Adroddiad diogelwch cynnyrch cosmetig wedi'i ardystio.
Disgrifiad
Mae gan y sebon deniadol hwn gyfuniad o bersawr cyfoethog olewau hanfodol Patchouli a Rosemary. Mae wedi'i liwio'n rhannol gan bigmentau naturiol a hadau pabi, sy'n rhoi golwg trawiadol a brith iddo ac mae ganddo frig blodau grug hardd.
Fe'i gwneir trwy broses oer sy'n cynhyrchu glyserin fel sgil-gynnyrch.
Yn pwyso Isafswm o 100g
Mae wedi'i lapio mewn papur wedi'i wneud â llaw ac wedi'i drwytho â botaneg. Mae'r cynnyrch mewn bocs cardfwrdd y gellir ei gompostio gyda llenwad gwlân pren wedi'i drwytho â botaneg, felly dim gwastraff, sy'n cyd-fynd â'n safonau eco-gyfeillgar.
Cynhwysion -
Sodiwm Olivate (olew olewydd), Sodiwm Cocoate (olew cnau coco), Butterate Shea (Menyn Shea), Glyserin, Pogostemon Cablin ( Patchouli ) Olew, Rosmarinus Officinalis ( Rosemary ) Olew, Papaver Somniferum ( pabi ) Had , Clolourant CI77019, CI77891, CI77742, CI77491, Calluna Vulgaris Flower, Grandis Seed Extract + Glycerine+ Ascorbic Acsp;
Sebon Patsiwli a Rhosmari
Rhybuddion
Defnydd allanol, lleol yn unig.
Mae rhai olewau hanfodol yn cynnwys alergenau hysbys, yn yr achosion hyn mae nhw wedi'i rhestru ar y labeli ac ar y wefan o dan cynhwysion.
Darllenwch y rhestr cynhwysion bob amser cyn defnyddio'r cynnyrch hwn.
Cadwch ymhell o lygaid a philen ludiog.
Cadwch allan o gyrraedd plant.
Os bydd llid yn digwydd, diweddwch ddefnydd.
Nodyn
Mae sebonau cartref yn para'n hirach os caiff ei sychu rhwng defnyddiau.
Trowch y bar rhwng y dwylo yn hytrach na chadw o dan llif dwr cyson ar gyfer defnydd hirach.
Bydd lliw a phersawr cynhwysion naturiol y sebon yn pylu dros amser.
Defnyddiwch o fewn chwe mis o'i brynu.