Uchafbwyntiau - Wedi'i gwneud â llaw
Wedi'i wneud a'i anfon o fusnes bach yng Nghymru.
Dim gwastraff, pecynnu di-blastig, ailgylchadwy neu gompostiadwy.
Deunyddiau - Olew Olewydd, Olew Cnau Coco, Menyn Shea, pigmentau naturiol neu glai ac olewau hanfodol.
Disgrifiad
Mae gan y bar lleithiol yma liw gwyrdd golau deiniadol ac arogl lleddfol. Wedi'i gyfoethogi a sbigoglys sydd llawn maetholion, a'i drwytho a chyfansoddion buddiol olewau camri a rhosmari. Mae lliw oren-goch y safflwr yn ychwanegu pop o liw bywiog ar ben y sebon.
Fe'i gwneir trwy broses oer sy'n cynhyrchu glyserin fel sgil-gynnyrch.
Yn pwyso Isafswm o 100g
Mae wedi'i lapio mewn papur wedi'i wneud â llaw ac wedi'i drwytho â botaneg. Mae'r cynnyrch mewn bocs cardfwrdd y gellir ei gompostio gyda llenwad gwlân pren wedi'i drwytho â botaneg, felly dim gwastraff, sy'n cyd-fynd â'n safonau eco-gyfeillgar.

